Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 21 Hydref 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
 


298(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.

Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

 

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

(45 munud)

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

(45 munud)

Gweld y cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

(30 munud)

Gweld y cwestiynau

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni dderbyniwyd unrhyw Cwestiynau Amserol.

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Calonnau Cymru

(30 munud)

NDM7427 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:

a) Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;

b) awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol i ddiffibrilwyr cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;

c) Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i bobl ledled Cymru;

d) byrddau iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty; ac

e) Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn erbyn amcanion bob blwyddyn.

Cyd-gyflwynwyr

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru

(30 min)

NDM7438 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1003 Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru’ a gasglodd 10,692 o lofnodion.

P-05-1003 Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru - Dyfodol Addysg

(60 munud)

NDM7440 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi sicrwydd amserol i ddisgyblion ac athrawon drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru yn haf 2021 a bydd asesiad gan athrawon yn digwydd yn lle hynny;

b) sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system asesu a chymwysterau ddiwygiedig yng Nghymru sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru drwy ddileu arholiadau hen ffasiwn TGAU a Safon Uwch.

c) sicrhau bod pob disgybl yn gadael y system addysg yn ddinasyddion dwyieithog, drwy:

i) cymryd camau pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy gynyddu addysg gyfrwng Cymraeg ym mhob sector a chyfnod dysgu; a

ii) ymrwymo i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg;

d) sicrhau bod gan bob disgybl ddealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth amrywiol Cymru, drwy wneud hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw sy’n rhan annatod o hanes Cymru;

e) cynnal hawliau pob disgybl yn ardal Pontypridd ac mewn mannau eraill i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned eu hunain ac o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi drwy hyrwyddo'n eang y cynseiliau sy'n deillio o ddyfarniad y llys gweinyddol yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â sicrhau yr ymgymerir ag asesiadau effaith iaith Gymraeg yn briodol mewn cynigion i ad-drefnu ysgolion;

f) blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr drwy sicrhau bod meysydd dysgu ac arbenigedd iechyd meddwl a lles yn cael sylw dyledus yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, a monitro tueddiadau tymor canolig a hirdymor yn y ddarpariaeth iechyd meddwl o fewn ysgolion;

g) cefnogi myfyrwyr addysg bellach sy'n dysgu gartref, a hynny ar frys, drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at ddarpariaeth band eang ac offer digonol, ac asesu ar frys yr angen i ailagor lleoedd gwaith cyhoeddus yn ddiogel i fyfyrwyr na allant weithio gartref;

h) atal prentisiaid rhag llithro i dlodi drwy warantu amddiffyniadau cyflog llawn pan fo gweithleoedd yn cael eu cau, a darparu cymorth/arweiniad ychwanegol os cânt eu diswyddo;

i) cynnal hawliau cyfreithiol myfyrwyr drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill y cyhoedd o ran cyfyngiadau COVID-19, gan gynnwys gwarant y gall myfyrwyr ddychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith drwy brofion.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Penderfyniadau Uchel Lys Cymru a Lloegr : Gyrrwr yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf [2020] (Saesneg yn unig)

 

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:

'cymryd pob cam i sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn cael cyfle i sefyll arholiadau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod y flwyddyn ysgol hon, gan gynnwys os caiff y flwyddyn ysgol ei hymestyn;

pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud penderfyniad ynghylch a fydd arholiadau'n mynd rhagddynt, gyda'r dyddiadau'n caniatáu i system gredadwy a chadarn o raddau asesu canolfannau a gymedrolir yn allanol gael ei gweithredu yn lle hynny;'

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu is-bwynt (c) (i) a rhoi yn ei le:

'cyflwyno cod continwwm Iaith Gymraeg i gynorthwyo ymarferwyr i gyflawni'r nod o wella rhuglder drwy'r cwricwlwm;'

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnwys is-bwynt (c)(ii) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

'derbyn y dyfarniad yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;

 

Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl pwynt (c) ac ailrifo'n unol â hynny:

'sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system well o asesu a chymwysterau cyffredinol sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru a thrwy fynediad i gyrsiau sy'n arwain at gymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig;'  

 

Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu is-bwynt (e) ac ailrifo'n unol â hynny.  

 

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (g) ac ailrifo yn unol â hynny:

'adlewyrchu argymhellion yr adroddiad Cadernid Meddwl ac arsylwadau'r Comisiynydd Plant yn well wrth gyflwyno'r cwricwlwm, a monitro canlyniadau;'

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Cadernid Meddwl: Adroddiad ar y newid mawr sydd ei angen o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru

 

Gwelliant 7 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu is-bwynt (h) ac ailrifo'n unol â hynny.

 

Gwelliant 8 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 wedi tarfu ar addysg disgyblion.

Yn cydnabod ymrwymiad a hyblygrwydd yr holl staff sy'n darparu addysg yn ystod pandemig COVID-19.   

 

Gwelliant 9 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

'gwneud datganiad brys ar y cymorth a ddarperir i brentisiaid a hyfforddeion.'

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddetholwyd gwelliant 10 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7439 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ehangu'r sbectrwm: ychwanegu glas at yr adferiad gwyrdd.

Gosod ein moroedd wrth wraidd yr economi werdd a setliad cymdeithasol yn dilyn COVID-19.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>